Gwneud Synnwyr Busnes – Menter Gymdeithasol fel Model ar gyfer Cyfranogiad Tenantiaid
Dyddiad: 15.02.2012
Mae adroddiad gan Wasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS) Cymru wedi tynnu sylw at y “manteision adfywiol niferus” y gellir eu hennill drwy sefydlu mentrau cymdeithasol newydd yn sector tai Cymru.
Enw’r adroddiad oedd “Menter Gymdeithasol fel Dull o Gyfranogiad Tenantiaid”, ac roedd yn edrych ar y mentrau cymdeithasol seiliedig ar y landlord sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru a’r gwasanaethau cefnogol sy’n cael eu sefydlu o’u cwmpas. Fe’i comisiynwyd o ganlyniad i “ddiffyg gwybodaeth am fentrau cymdeithasol seiliedig ar y landlord a sut y gellid defnyddio’r model hwn i ymgysylltu â thenantiaid”.
Gwelodd fod y model menter gymdeithasol yn ffordd ardderchog o hybu cyfranogiad tenantiaid a gwella sgiliau cymunedau Cymru. Mae’n tynnu elfennau o’r arfer gorau sydd yn y mentrau cymdeithasol presennol i ddarparu canllaw defnyddiol i denantiaid a landlordiaid cymdeithasol sy’n ystyried sefydlu menter gymdeithasol.
Mae’r adroddiad yn cyfeirio at fudiadau a phartneriaid, megis Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru, a all helpu gyda’r broses o sefydlu menter gymdeithasol.
Dywedodd Joseph Champion, Swyddog Polisi ac Ymchwil yn TPAS Cymru, "Yn ôl yr adroddiad, ymddengys fod lle yn y farchnad dai yng Nghymru i fentrau cymdeithasol. Mae hyn yn deillio o hanes cyfoethog Cymru o gydweithrediad cyd-fuddiannol, llywodraethu rhagweithiol a chefnogaeth y trydydd sector i’r model menter gymdeithasol.”
I ddarllen yr adroddiad cliciwch Mentrau Cymdeithasol fel Dull o Gyfranogiaid Tenantiaid
Enjoy this post? Share it with others.

Cynhaliodd Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru ei derbyniad cyntaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mawrth 24ain Ebrill. Daeth dros 90 o bobl yno gan gynnwys Gweinidogion y Cabinet a Gweinidogion Cabinet yr Wrthblaid, ac yr oedd yn llwyddiant mawr.
Mae un o aelodau newydd WSEC yn helpu i adfywio’r Rhyl a darparu hyfforddiant a gobaith hanfodol i bobl leol.