Ein nodau yw adeiladu ar sector mentrau cymdeithasol gweithredol a chael ein cydnabod a’n gwerthfawrogi fel llais cyfunol i fentrau cymdeithasol yng Nghymru

Ein nodau yw adeiladu ar sector mentrau cymdeithasol gweithredol a chael ein cydnabod a’n gwerthfawrogi fel llais cyfunol i fentrau cymdeithasol yng Nghymru

Newyddion diweddaraf
Dathlu cryfder ac amrywiaeth mentrau cymdeithasol Cymru yn Nerbyniad y Cynulliad
Dyddiad: 15.05.12

Dathlu cryfder ac amrywiaeth mentrau cymdeithasol Cymru yn Nerbyniad y CynulliadCynhaliodd Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru ei derbyniad cyntaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mawrth 24ain Ebrill. Daeth dros 90 o bobl yno gan gynnwys Gweinidogion y Cabinet a Gweinidogion Cabinet yr Wrthblaid, ac yr oedd yn llwyddiant mawr.

Portread o Aelod
Darparu ar gyfer y dyfodol: bwyty Taste Academy
Dyddiad: 17.02.12

Darparu ar gyfer y dyfodol: bwyty Taste AcademyMae un o aelodau newydd WSEC yn helpu i adfywio’r Rhyl a darparu hyfforddiant a gobaith hanfodol i bobl leol.

Twitter @welshSEC

(17.05.12) Community Housing Cymru's Capturing Creativity Pat Chown Award is now open. Deadline for entries is 12th October http://t.co/VTbpVXFW

(17.05.12) Good discussion on ensuring new business support takes into account views of WSEC members. Some v positive developments for Welsh #socent

Grŵp Ffocws WSEC yn y Trallwng, Dydd Llun 6ed Chwefror 12pm - 2pm

Dyddiad: 17.01.2012

Cynhelir ein grŵp ffocws nesaf yn swyddfeydd y fenter gymdeithasol ardderchog, Cae Post, yn y Trallwng ddydd Llun 6ed Chwefror.

 

Fel y llais torfol i fentrau cymdeithasol yng Nghymru, mae Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru yn cynnal cyfres o grwpiau ffocws ledled y wlad. Ein bwriad yw gwrando a cheisio deall barn arweinwyr mentrau cymdeithasol am y materion sy’n effeithio ar y sector.
 

Bydd y grŵp ffocws nesaf yn cyfarfod yng Nghae Post, Y Ganolfan Adfer Adnoddau, Lôn Crigion, Trewarn, Y Trallwng, SY21 8EE ddydd Llun 6ed Chwefror am 12pm. Darperir lluniaeth ysgafn.

 

 

Grŵp Ffocws WSEC yn y Trallwng, Dydd Llun 6ed Chwefror 12pm - 2pm

 

Bydd y grŵp ffocws nesaf yn cyfarfod yng Nghae Post, Y Ganolfan Adfer Adnoddau, Lôn Crigion, Trewarn, Y Trallwng, SY21 8EE ddydd Llun 6ed Chwefror am 12pm. Darperir lluniaeth ysgafn.

 

Drwy ein grwpiau ffocws, caiff mentrau cymdeithasol Cymru gyfle i ddylanwadu ar wneuthurwyr polisi a’n helpu i grynhoi’r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i lobïo Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y sector preifat ac eraill ar eich rhan. Ymunwch â ni i gael trafodaeth onest ac agored ar amrywiaeth eang o bynciau yn cynnwys:

 

  • Beth yw’r prif elfennau sy’n rhwystro eich menter gymdeithasol rhag tyfu?
  • Sut y gellir gwneud dyfarnu contractau yn symlach ac yn fwy hygyrch i fentrau cymdeithasol?
  • Beth fu’ch profiad chi o gymorth busnes?  Beth sy’n gweithio’n dda, beth sydd ddim, a sut y gellid ei addasu’n well i anghenion mentrau cymdeithasol?
  • A fyddech chi’n elwa o gael hyfforddwr busnes, rhywun sydd wedi bod yn entrepreneur cymdeithasol ei hun?
  • A oes yna ddiffyg ymwybyddiaeth o fentrau cymdeithasol yn y byd busnes ac mewn awdurdodau lleol a pha effaith mae hyn yn ei chael?
  • Ydych chi’n obeithiol am ddatblygiad eich busnes yn y dyfodol?
  • Ydych chi’n ei chael yn anodd cael gafael ar gyllid?  Ydych chi’n gwybod lle i chwilio am gyfleoedd buddsoddi?

 

Bydd yr wybodaeth a gasglwn yn sail i adroddiad y byddwn yn ei gyhoeddi a’i ddosbarthu,  Gobeithiwn y bydd hwn yn cyfrannu at greu’r amgylchedd a fydd yn caniatáu i fentrau cymdeithasol Cymru dyfu a ffynnu.

 

Felly dewch draw i’n grŵp ffocws yn y Trallwng i wneud yn siŵr fod eich barn yn cael ei chlywed.  


Grŵp Ffocws WSEC yn y Trallwng, Dydd Llun 6ed Chwefror 12pm - 2pm 
 

Am ragor o wybodaeth neu i archebu lle cysylltwch â Sue Wood ar 02920 486379 neu e-bost .(JavaScript must be enabled to view this email address).

 

Bydd manylion grwpiau ffocws eraill yn cael eu gosod ar ein gwefan felly os na allwch chi ddod i'r Trallwng, byddwn yn dod i'ch ardal chi cyn bo hir.


 

Enjoy this post? Share it with others.

Croeso

Aelod yn Barod? Mewngofnodwch yma. Dim yn Aelod? Ymaelodwch yma.

Enw :

Cyfrinair :


Cofrestrwch yma i gael y cylchlythyr

Derbyniwch gylchlythyr y Glymblaid drwy gofrestru yma

Enw :

Cyfeiriad ebost :