Enwi Lis Burnett yn Gadeirydd newydd WSEC
Dyddiad: 27.01.2012
Mae Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru (WSEC) wedi cyhoeddi fod y cyn Is-Gadeirydd, Lis Burnett, wedi ei hethol yn Gadeirydd newydd y Glymblaid gan y Bwrdd Cyfarwyddwyr. Bydd hi’n olynu Mal Williams.
Mae Ms Burnett (yn y llun ar y chwith) yn Bennaeth y Ganolfan Entrepreneuriaeth Gymdeithasol ym Mhrifysgol Morgannwg ac yn gyn gynrychiolydd Cymru ar NESTA (Gwaddoliad Cenedlaethol dros Wyddoniaeth, Technoleg a’r Celfyddydau). Mae’n aelod sylfaenydd o WSEC, wedi bod ar y grŵp llywio a helpodd i sefydlu’r corff ym mis Chwefror 2010, a daeth yn Is-Gadeirydd ym mis Rhagfyr 2010.
Fel cynghorydd i Gymdeithasau Tai Cymru ar ddatblygu a gweithredu eu strategaethau menter gymdeithasol, daw â chyfoeth o brofiad i’r swydd. Bu Ms Burnett hefyd yn gynghorydd arbenigol i Bwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad ar gyfer ei ymchwiliad i rôl mentrau cymdeithasol yng Nghymru, ac yn ddiweddar gofynnwyd iddi helpu’r pwyllgor Busnes a Menter wrth iddo gynnal adolygiad o’r ymchwiliad blaenorol.
Dyweddodd Cadeirydd newydd WSEC, Lis Burnett:
"Mae'n bleser o'r mwyaf cael fy ethol yn Gadeirydd Clymblaid Mentrau Cydeithasol Cymru."
"Mae 2012 yn argoeli'n flwyddyn gyffrous a phwysig i fentrau cymdeithasol. Mae yna gyfle gwirioneddol i ddod a chydbwysedd yn ol i'r economi ac i ddangos fod yna ddewis gwahanol i adeiladu economi sy'n seiliedig ar fanciau, bondiau ac achub croen; ond mae yna heriau hefyd. Wrth i'r gwasanaethau cymhoeddus gwtogi, mae angen i fentrau cymdeithasol brofi eu bod yn ddewis ymarferol. Mae gan WSEC ran hanfodol yn hyn o beth gefnogi'r sector a dangos beth y gall ei wneud."
"Dwi eisiau bod yn Gadeirydd rhagweithiol a byddaf yn cynnig cefnogaeth i'r tim ac yn cyfrannu at lwyddiant WSEC fel corff cwbl gynhwysol sy'n adlewyrchu pob agwedd o'r sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru."
"Dwi'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Bwrdd."
Dywedodd Prif Weithredwr WSEC, John Bennett:
"Mae Lis yn dod â brwdfrydedd, gwybodaeth ac arbenigedd i’r bwrdd. Bydd ei llwyddiant wrth hyrwyddo'r model menter gymdeithasol mewn addysg bellach ac uwch yn benodol, yn fanteisiol dros ben wrth i ni geisio creu, ysgogi ac annog entrepreneuriaid ifanc, gan mai’r rhain fydd dyfodol y sector.”
Talodd Mr Bennett deyrnged hefyd i Brif Weithredwr Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cylch, Mal Williams, a fu'n Gadeirydd WSEC am bron i ddeunaw mis. Dywedodd:
"Rhoddodd Mal gefnogaeth aruthrol i’r tîm a chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad cynnar y sefydliad."
"Ar ran y staff a’r Bwrdd, hoffwn ddiolch i Mal am ei waith sylweddol dros y deunaw mis diwethaf."
Bydd Mr Williams yn cynorthwyo Ms Burnett fel Is-Gadeirydd ac ailetholwyd Mark White, Swyddog Cyllid Cymru yn y Banc Elusen, yn Drysorydd
Enjoy this post? Share it with others.

Cynhaliodd Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru ei derbyniad cyntaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mawrth 24ain Ebrill. Daeth dros 90 o bobl yno gan gynnwys Gweinidogion y Cabinet a Gweinidogion Cabinet yr Wrthblaid, ac yr oedd yn llwyddiant mawr.
Mae un o aelodau newydd WSEC yn helpu i adfywio’r Rhyl a darparu hyfforddiant a gobaith hanfodol i bobl leol.