Ein nodau yw adeiladu ar sector mentrau cymdeithasol gweithredol a chael ein cydnabod a’n gwerthfawrogi fel llais cyfunol i fentrau cymdeithasol yng Nghymru

Ein nodau yw adeiladu ar sector mentrau cymdeithasol gweithredol a chael ein cydnabod a’n gwerthfawrogi fel llais cyfunol i fentrau cymdeithasol yng Nghymru

Newyddion diweddaraf
Dathlu cryfder ac amrywiaeth mentrau cymdeithasol Cymru yn Nerbyniad y Cynulliad
Dyddiad: 15.05.12

Dathlu cryfder ac amrywiaeth mentrau cymdeithasol Cymru yn Nerbyniad y CynulliadCynhaliodd Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru ei derbyniad cyntaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mawrth 24ain Ebrill. Daeth dros 90 o bobl yno gan gynnwys Gweinidogion y Cabinet a Gweinidogion Cabinet yr Wrthblaid, ac yr oedd yn llwyddiant mawr.

Portread o Aelod
Darparu ar gyfer y dyfodol: bwyty Taste Academy
Dyddiad: 17.02.12

Darparu ar gyfer y dyfodol: bwyty Taste AcademyMae un o aelodau newydd WSEC yn helpu i adfywio’r Rhyl a darparu hyfforddiant a gobaith hanfodol i bobl leol.

Twitter @welshSEC

(17.05.12) Community Housing Cymru's Capturing Creativity Pat Chown Award is now open. Deadline for entries is 12th October http://t.co/VTbpVXFW

(17.05.12) Good discussion on ensuring new business support takes into account views of WSEC members. Some v positive developments for Welsh #socent

Annog mentrau cymdeithasol i wneud cais i’r Gronfa newydd i Gymunedau Arfordirol

Dyddiad: 16.02.2012

Cyhoeddwyd manylion am lansio rhaglen gwerth £23.7 miliwn i gefnogi llewyrch ac adfywiad trefi arfordirol y DU gan Lywodraeth San Steffan.

 

Annog mentrau cymdeithasol i wneud cais i’r Gronfa newydd i Gymunedau Arfordirol

(Gallai tref lan môr y Rhyl yng ngolgedd Cymru, a welir yn y llun uchod, elwa ar y rhaglen newydd) 

 

Bydd y Gronfa Cymunedau Arfordirol (CCF) yn helpu cymunedau arfordirol i ddatblygu’n economaidd drwy hyrwyddo twf economaidd a swyddi cynaliadwy, fel bod pobl yn gallu ymateb yn well i’r ffordd y mae’r anghenion economaidd a’r cyfleoedd yn eu hardal yn newid.

 

Bydd grantiau gwerth rhwng £50,000 a £2 miliwn yn cael eu cynnig drwy’r cynllun. Gellir defnyddio’r arian i gefnogi prosiectau cyfalaf a refeniw a bydd cymunedau’n cael eu hannog i ddod o hyd i arian cyfatebol o botiau eraill o arian.

 

Dyma enghreifftiau o weithgareddau a allai fod yn gymwys i dderbyn arian:

 

  • Cefnogi cynlluniau sgiliau a hyfforddiant i wella rhagolygon swyddi;
  • cynnal a datblygu isadeiledd arbenigol i dwristiaid;
  • rheoli ac addasu i’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol;
  • cefnogi mentrau cymdeithasol i ddod â chyfleoedd economaidd newydd a swyddi;
  • cynnig prentisiaethau i’r rhai sy’n gadael ysgol;
  • creu gweithfannau newydd i gynnal a thyfu economïau lleol;
  • rhoi hwb i ddulliau lleol o hyrwyddo menter ac adfywiad economaidd;
  • cefnogi gwelliannau mewn trafnidiaeth gynaliadwy.

 

Bydd ceisiadau arloesol yn cael eu croesawu oddi wrth fusnesau, mentrau cymdeithasol, partneriaethau menter lleol, elusennau ac awdurdodau lleol sy’n cefnogi datblygiad economaidd y gymuned.

 

Disgwylir y bydd tua £1.15 miliwn ar gael i drefi arfordirol Cymru o dan y cynllun.

 

Dywedodd David Jones, Gweinidog yn Swyddfa Cymru ac AS Gorllewin Clwyd: “Rydym eisiau gweld cynifer o gymunedau arfordirol â phosibl, mawr a bach, yn cyflwyno ceisiadau safonol am gyllid a fydd yn helpu prosiectau creadigol ac arloesol sy’n hybu swyddi a thwf ac yn gam at adeiladu economïau lleol cryfach a mwy amrywiol.”

 

Dywedodd Chris Ruane, AS Dyffryn Clwyd y dylai cefnogi mentrau cymdeithasol fod yn ganolbwynt.Meddai wrth y Daily Post “Mae’r £1.15m ychwanegol i Gymru i’w groesawu a bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at adfywio, yn enwedig os caiff ei dargedu at fenter a mentrau cymdeithasol.”

 

Gwahoddir mynegiannau o ddiddordeb o ddechrau mis Mawrth a’r dyddiad cau fydd 30 Mawrth 2012.

 

Am ragor o fanylion cliciwch ar www.communities.gov.uk

 

Enjoy this post? Share it with others.

Croeso

Aelod yn Barod? Mewngofnodwch yma. Dim yn Aelod? Ymaelodwch yma.

Enw :

Cyfrinair :


Cofrestrwch yma i gael y cylchlythyr

Derbyniwch gylchlythyr y Glymblaid drwy gofrestru yma

Enw :

Cyfeiriad ebost :