Ein nodau yw adeiladu ar sector mentrau cymdeithasol gweithredol a chael ein cydnabod a’n gwerthfawrogi fel llais cyfunol i fentrau cymdeithasol yng Nghymru

Ein nodau yw adeiladu ar sector mentrau cymdeithasol gweithredol a chael ein cydnabod a’n gwerthfawrogi fel llais cyfunol i fentrau cymdeithasol yng Nghymru

Newyddion diweddaraf
Dathlu cryfder ac amrywiaeth mentrau cymdeithasol Cymru yn Nerbyniad y Cynulliad
Dyddiad: 15.05.12

Dathlu cryfder ac amrywiaeth mentrau cymdeithasol Cymru yn Nerbyniad y CynulliadCynhaliodd Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru ei derbyniad cyntaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mawrth 24ain Ebrill. Daeth dros 90 o bobl yno gan gynnwys Gweinidogion y Cabinet a Gweinidogion Cabinet yr Wrthblaid, ac yr oedd yn llwyddiant mawr.

Portread o Aelod
Darparu ar gyfer y dyfodol: bwyty Taste Academy
Dyddiad: 17.02.12

Darparu ar gyfer y dyfodol: bwyty Taste AcademyMae un o aelodau newydd WSEC yn helpu i adfywio’r Rhyl a darparu hyfforddiant a gobaith hanfodol i bobl leol.

Twitter @welshSEC

(17.05.12) Community Housing Cymru's Capturing Creativity Pat Chown Award is now open. Deadline for entries is 12th October http://t.co/VTbpVXFW

(17.05.12) Good discussion on ensuring new business support takes into account views of WSEC members. Some v positive developments for Welsh #socent

Dathlu cryfder ac amrywiaeth mentrau cymdeithasol Cymru yn Nerbyniad y Cynulliad

Dyddiad: 15.05.2012

Cynhaliodd Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru ei derbyniad cyntaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mawrth 24ain Ebrill. Daeth dros 90 o bobl yno gan gynnwys Gweinidogion y Cabinet a Gweinidogion Cabinet yr Wrthblaid, ac yr oedd yn llwyddiant mawr.

Dathlu cryfder ac amrywiaeth mentrau cymdeithasol Cymru yn Nerbyniad y Cynulliad


Cynhaliwyd y derbyniad mewn Oriel orlawn yn y Senedd, lle daeth aelodau WSEC a gwneuthurwyr polisi ynghyd,gan roi cyfle i fentrau cymdeithasol llawr gwlad siarad yn uniongyrchol ag Aelodau Cynulliad (ACau) ynghylch eu gwaith, y sialensiau a wynebant a’r effaith a gânt yn eu cymunedau lleol.

 

dd Er mwyn arddangos talent y sector, yr oedd 14 o arddangoswyr* wrth law er mwyn rhoi gwell syniad i wneuthurwyr polisi am natur eu gwaith a bu'r derbyniad yn lle ardderchog i aelodau rwydweithio a'i gilydd a chyda rhanddeiliaid, ac i ddatblyg u eu dealltwriaeth o brosesau gwleidyddol.

 

Dathlu cryfder ac amrywiaeth mentrau cymdeithasol Cymru yn Nerbyniad y Cynulliad

 

Roeddem yn falch tu hwnt fod Edwina Hart OStJ AC, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, yn gallu siarad yn y derbyniad. Yn ei haraith, cyfeiriodd at yr ystod o gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i’r sector a dywedodd fod menter gymdeithasol yn cael ei hadnabod fwyfwy fel model busnes dynamig a oedd yn chwarae rôl bwysig wrth greu swyddi newydd ac wrth helpu i dyfu economi Cymru.

 

Yn ei anerchiad, dywedodd John Bennett, Prif Weithredwr WSEC, fod Llywodraeth Cymru yn helpu i feithrin twf y sector yng Nghymru a siaradodd am bwysigrwydd Gweinidog cefnogol a oedd yn 'deall' menter gymdeithasol.

 

Siaradodd hefyd am rol WSEC a'n cyflawniadau cynnar, gan gynnwys adeiladu aelodaeth ragweithiol sydd ar gynnydd (a oedd yn sicr i'w weld ar y noson); dod a mentrau cymdeithasol at ei gilydd i rannu syniadau ac arfer gorau drwy gyfres o ddigwyddiadau; bod yn llaid cyfunol i'r sector trwy ein grwpiau ffocws a fforymau gwrand eraill; a sicrhau bod y llais hwn yn cael ei glywed fel llais y corff cenedlaethol dros fenter gymdeithasol yng Nghymru drwy ymgynghoriadau, ymgyrchodd ac mewn gwaith polisi o fath arall.

 

 


 

Enjoy this post? Share it with others.

Croeso

Aelod yn Barod? Mewngofnodwch yma. Dim yn Aelod? Ymaelodwch yma.

Enw :

Cyfrinair :


Cofrestrwch yma i gael y cylchlythyr

Derbyniwch gylchlythyr y Glymblaid drwy gofrestru yma

Enw :

Cyfeiriad ebost :