Ein nodau yw adeiladu ar sector mentrau cymdeithasol gweithredol a chael ein cydnabod a’n gwerthfawrogi fel llais cyfunol i fentrau cymdeithasol yng Nghymru

Ein nodau yw adeiladu ar sector mentrau cymdeithasol gweithredol a chael ein cydnabod a’n gwerthfawrogi fel llais cyfunol i fentrau cymdeithasol yng Nghymru

Newyddion diweddaraf
Dathlu cryfder ac amrywiaeth mentrau cymdeithasol Cymru yn Nerbyniad y Cynulliad
Dyddiad: 15.05.12

Dathlu cryfder ac amrywiaeth mentrau cymdeithasol Cymru yn Nerbyniad y CynulliadCynhaliodd Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru ei derbyniad cyntaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mawrth 24ain Ebrill. Daeth dros 90 o bobl yno gan gynnwys Gweinidogion y Cabinet a Gweinidogion Cabinet yr Wrthblaid, ac yr oedd yn llwyddiant mawr.

Portread o Aelod
Menter Fachwen: Yno ers 25 mlynedd
Dyddiad: 14.05.12

Menter Fachwen: Yno ers 25 mlyneddMae’r fenter gymdeithasol o Wynedd sy’n cynnig gwasanaethau garddio, arlwyo a gwaith saer yn dweud wrthym beth sy’n gyfrifol am lwyddiant y busnes, ac am ei chynlluniau i dyfu’r fenter ymhellach.

Twitter @welshSEC

(17.05.12) Community Housing Cymru's Capturing Creativity Pat Chown Award is now open. Deadline for entries is 12th October http://t.co/VTbpVXFW

(17.05.12) Good discussion on ensuring new business support takes into account views of WSEC members. Some v positive developments for Welsh #socent

Darparu ar gyfer y dyfodol: bwyty Taste Academy

Dyddiad: 17.02.2012

Mae un o aelodau newydd WSEC yn helpu i adfywio’r Rhyl a darparu hyfforddiant a gobaith hanfodol i bobl leol.

 

Darparu ar gyfer y dyfodol: bwyty Taste Academy

 

Mae nifer ohonom wedi clywed am fwyty Jamie Oliver, Fifteen, yr academi i gogyddion sy’n hyfforddi pobl ifanc ddifreintiedig sy’n ddi-waith, yn y diwydiant arlwyo. Mae nifer o’r prentisiaid yn mynd yn eu blaenau i gael gwaith yn y sector a chwyldroi eu bywydau wedi iddyn nhw gael dysgu gan y pen-cogyddion.

Fis Ebrill diwethaf, gwelwyd menter gymdeithasol debyg yng Ngogledd Cymru o’r enw Taste Academy yn agor ei drysau mewn llecyn heulog ar bromenâd y Rhyl.

Cyflogwyd nifer o bobl leol mewn swyddi parhaol a chymerwyd 24 o brentisiaid hyd yma, 16 ohonynt wedi mynd ymlaen i hyfforddiant neu waith pellach.

“Mae’r academi’n chwarae rhan allweddol mewn uwchsgilio gweithlu lleol i ddiwallu’r galw am lafur a’r angen am sgiliau yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo,” medd Ali Thomas, rheolwr rhaglen Strategaeth Dinas y Rhyl, sydd y tu ôl i’r fenter. “Mae hefyd yn ffenestr siop a hynny’n cefnogi cynlluniau lleol i adfywio economi twristiaeth y Rhyl,” meddai.

 

Mae’r bwyty’n un o brif gynlluniau’r Rhyl o dan raglen ‘Strategaeth Dinasoedd’ llywodraeth y DU, a lansiwyd yn 2006. Nod y rhaglen yw mynd i’r afael â diweithdra ac anweithgarwch economaidd.

 

Cafwyd arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adnewyddu’r adeilad a derbyniodd yr academi nawdd hefyd gan Dîm Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau Conwy/Sir Ddinbych.

 

Darparu ar gyfer y dyfodol: bwyty Taste Academy 

Bwyd lleol da
 

Hyd yn hyn, daeth dros 20,000 o ymwelwyr drwy’r drysau i fwynhau danteithion lleol a phrydau rhyngwladol mewn lleoliad ffasiynol a chwaethus a grëwyd gan y cynllunydd arobryn Jamie Alcock.

Rhannwyd yr academi’n ddwy ystafell: caffi hwyliog, a bwyty mwy ffurfiol, ac mae’n gweithio’n agos gyda phrosiect ffermdir Ymyriadau Cymunedol Cyfiawnder Cymru (CIJW) i ddod o hyd i fwyd lleol.


Treuliodd rheolwr y bwyty, David Mathias, 23 o flynyddoedd yn y fyddin yn rhedeg ystafelloedd bwyta i gannoedd o bobl, yn ogystal â bod yn gyfrifol am les.

Mae’r mudiad ieuenctid Rathbone Cymru, yn gyfrifol am ddod â hyfforddeion o sawl oed i’r academi - o CIJW, Canolfan Fenywod Gogledd Cymru a Choleg Llandrillo.

Mae’r prentisiaid yn mynd trwy raglen Marchnad Lafur Drosiannol (ILM) Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gael profiad gwaith a chyfleusterau NVQ a BTEC mewn nifer o feysydd, yn cynnwys paratoi bwyd, arlwyo a sgiliau busnes yn yr Academi.

 

Deilliannau llwyddiannus

 

Dywed nifer o’r prentisiaid fod yr academi wedi’u helpu i droi cornel yn eu bywyd. Daeth Joe, sy’n 27 oed, i’r prosiect pan oedd yn cael trafferth mawr dod o hyd i waith. Roedd ganddo ddiddordeb mewn coginio erioed a theimlai fod hwn yn gyfle da i ddysgu a datblygu sgiliau newydd.


“Roedd ganddo botensial yn y gegin a dangosodd fod ganddo allu canolbwyntio a sgiliau arwain a daeth yn oruchwyliwr cegin. Cwblhaodd Joe ei NVQ Lefel 1 mewn Paratoi Bwyd a Choginio, Hylendid Bwyd a Thystysgrif COSH ac erbyn hyn ef yw’r Prif Gogydd yng Ngwesty’r Antelope yn yr Wyddgrug,” medd Thomas.Darparu ar gyfer y dyfodol: bwyty Taste Academy

 

“Mi wnaeth dod i Taste Academy newid fy mywyd, agor fy llygaid i’r byd arlwyo a lletygarwch a rhoi cefnogaeth i mi ddechrau mynd am yrfa go iawn,” medd Joe.

Wedi diwedd prysur i 2011, gyda phriodas gyntaf yr academi ym mis Rhagfyr, yn ogystal â phartïon Nadolig di-ri, mae’r fenter gymdeithasol yn dod i drefn yn 2012 ac yn edrych ymlaen at groesawu miloedd yn rhagor o bobl leol ac ymwelwyr drwy ei drysau.

 

www.tasteacademy.co.uk

Croeso

Aelod yn Barod? Mewngofnodwch yma. Dim yn Aelod? Ymaelodwch yma.

Enw :

Cyfrinair :


Cofrestrwch yma i gael y cylchlythyr

Derbyniwch gylchlythyr y Glymblaid drwy gofrestru yma

Enw :

Cyfeiriad ebost :