Menter Fachwen: Yno ers 25 mlynedd
Dyddiad: 14.05.2012
Mae’r fenter gymdeithasol o Wynedd sy’n cynnig gwasanaethau garddio, arlwyo a gwaith saer yn dweud wrthym beth sy’n gyfrifol am lwyddiant y busnes, ac am ei chynlluniau i dyfu’r fenter ymhellach.
Ffeithiau a Ffigurau
Beth: Elusen a sawl menter gymdeithasol o dan ei hambarel, ym meysydd arlwyo, cadwraeth, gwaith coed a garddwriaeth
Ble: Gwynedd
Staff: 25
Dysgwyr/buddiolwyr: 40
Troisant: £660,000

Os buoch chi rywbryd ar Drên Bach yr Wyddfa, mae’n bosibl eich bod wedi gweld y trefniant o blanhigion a blodau a grëwyd gan Fenter Fachwen.
Mudiad ambarél yw’r elusen dros nifer o fentrau cymdeithasol, yn cynnwys tri chaffi, safle cadwraeth ddeg erw, busnes saer coed a’r busnes garddio (gweler y llun uchod) sy’n dod â lliw ychwanegol i deithiau rheilffordd Eryri.
Pwrpas y fenter gymdeithasol yw darparu hyfforddiant seiliedig ar waith i 40 o bobl ag anableddau dysgu, yn ogystal â swyddi i 25 o bobl yng Ngwynedd – lle mae’r busnesau wedi’u lleoli.
Mae gan nifer o’r 40 o fuddiolwyr anghenion dysgu uchel ac maent yn helpu ym mhob agwedd o’r busnes. Mae gan Fenter Fachwen gytundeb ar ffurf Cytundeb Lefel Gwasanaeth â’r Awdurdod Lleol a chytundebau unigol â’r Gronfa Byw’n Annibynnol, ac mae hyn yn galluogi’r mudiad i gefnogi a hyfforddi’r unigolion sydd ag anableddau dysgu.
Mae’r elusen yn integreiddio’r mentrau cymdeithasol gymaint ag y gall – mae’r busnes gwaith coed (gweler y crefftwr wrth ei waith isod) yn gwneud byrddau i’r caffis, ac mae rhandir Menter Fachwen yn darparu cyflenwad iach o gynnyrch iddyn nhw.

Mae’r busnes garddwriaeth, Garddwriaeth Gwaithgwyrdd, yn gwneud arddangosiadau i westai a meysydd carafannau lleol ac mae’r busnes gwaith coed yn creu nwyddau ardderchog i’r ardal leol. Roedd un dasg ddiweddar yn golygu adeiladu pwll tywod sy’n troi’n llwyfan i’r ysgol. Gwneir meinciau, cadeiriau a byrddau picnic yn y gweithdy hefyd, sy’n cyflogi dau aelod staff ac yn cefnogi dau fuddiolwr.
Harneisio’r busnes
Mae llawer o’r hyn a dyfir yn y rhandiroedd yn cael ei droi’n gynnyrch y gellir ei brynu. Mae’r tîm yn aml yn gwerthu ei jam a’i siytni mewn ffeiriau lleol, medd Carys Williams, y Rheolwr Datblygu Busnes.
“Rydym yn gwerthu mwy a mwy drwy’r amser,” medd hi. “Yn y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn canolbwyntio ar brisio a marchnata. Mae prisio pethau’n iawn yn bwysig oherwydd pan fyddwch yn gwerthu rhywbeth yn rhy rhad, fel yr oeddem ni, mae yna bosibilrwydd fod y cwsmer yn meddwl fod rhywbeth yn bod arno.
“Y dyddiau hyn rydym yn gwneud ymdrech i gael y prisiau’n iawn, rydym yn treulio tipyn o amser yn creu’r ddelwedd iawn ac yn cael deunydd pacio da. Mae’n bwysig ein bod ni’n cymryd sylw o ymchwil i’r farchnad hefyd,” medd hi.
Yn ôl Carys hefyd, yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Menter Fachwen wedi dechrau atgyfnerthu a datblygu’r marchnadoedd sydd ganddi, yn hytrach na cheisio gwneud gormod o bethau.
Datblygiad staff cryf
Mae hi wedi bod yn rheoli’r busnes ers pum mlynedd ar ôl bod yn gweithio mewn swydd weinyddol am 10 mlynedd heb unrhyw arwydd o ddyrchafiad neu ddatblygiad.
Ym Menter Fachwen, cafodd Carys ddyrchafiad i’r swydd rheolwr datblygu busnes. “Ro’n i’n gwybod fod gen i fwy i’w roi. Maen nhw’n credu’n gryf mewn datblygu staff ac fe gynigion nhw’r hyfforddiant, y datblygiad a’r anogaeth oedd eu hangen arna’i,” medd hi.
Mae hi wrth ei bodd yn ei swydd ac yn edrych ymlaen at dyfu potensial pryniant diweddaraf Menter Fachwen – tŷ tri llawr yn Llanberis – a fydd gobeithio yn lle gwych i ymwelwyr gael seibiant a lluniaeth, yn ogystal â chanolfan sgiliau byw’n annibynnol.
Croeso i bennod nesaf y ganolfan fenter gymdeithasol hon sy’n chwarter canrif oed ac yn aelod o WSEC. Edrychwn ymlaen at ddilyn ei thaith.

Cynhaliodd Clymblaid Mentrau Cymdeithasol Cymru ei derbyniad cyntaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mawrth 24ain Ebrill. Daeth dros 90 o bobl yno gan gynnwys Gweinidogion y Cabinet a Gweinidogion Cabinet yr Wrthblaid, ac yr oedd yn llwyddiant mawr.
Mae’r fenter gymdeithasol o Wynedd sy’n cynnig gwasanaethau garddio, arlwyo a gwaith saer yn dweud wrthym beth sy’n gyfrifol am lwyddiant y busnes, ac am ei chynlluniau i dyfu’r fenter ymhellach.